Job 27

Job am fod yn gwbl onest

1Yna dyma Job yn mynd yn ei flaen i ddweud:

2“Mor sicr â'i fod yn fyw, dydy Duw ddim wedi bod yn deg!
Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy enaid yn chwerw!
3Tra mae bywyd yn dal ynof i,
ac anadl Duw yn fy ffroenau,
4wna i byth ddweud gair o gelwydd,
na siarad yn dwyllodrus.
5Wna i byth gytuno mai chi sy'n iawn!
Bydda i'n onest hyd fy medd –
6Dw i'n dal i fynnu mai fi sy'n iawn;
mae fy nghydwybod i'n glir!
7Boed i'm gelyn gael ei drin fel un drwg;
yr un sy'n ymosod arna i, fel yr anghyfiawn.
8Pa obaith sydd i'r annuwiol pan mae'n marw,
a Duw yn dwyn ei fywyd oddi arno?
9Fydd Duw yn gwrando arno'n gweiddi
pan fydd mewn trafferthion?
10Fydd e'n ymgolli yn yr Un sy'n rheoli popeth?
Fydd e'n galw ar Dduw yn ddi-baid?
11Dysgaf i i chi am nerth Duw,
heb guddio dim o fwriad yr Un sy'n rheoli popeth.
12Dych chi wedi gweld y peth eich hunain,
felly pam dych chi'n dal i siarad y fath nonsens?
13Dyma mae pobl ddrwg yn ei gael gan Dduw,
a'r gormeswr yn ei dderbyn gan yr Un sy'n rheoli popeth:
14Er iddo gael llawer o blant – cânt eu taro â'r cleddyf;
fydd gan ei deulu ddim digon o fwyd.
15Bydd y rhai sy'n goroesi yn marw o'r pla,
a fydd dim amser i'r gweddwon alaru.
16Er casglu pentwr o arian fel pridd,
a thomen o ddillad fel baw –
17gall gasglu'r cwbl, ond y cyfiawn fydd yn eu gwisgo,
a'r diniwed fydd yn rhannu'r arian.
18Mae'r tŷ mae'n ei godi yn frau fel cocŵn gwyfyn,
neu'r lloches dros dro mae'r gwyliwr yn ei greu.
19Mae'n mynd i'w wely yn gyfoethog, ond am y tro olaf;
pan fydd yn agor ei lygaid bydd y cwbl wedi mynd.
20Mae dychryn yn dod drosto fel ffrydlif,
a'r storm yn ei gipio yn y nos.
21Mae gwynt y dwyrain yn ei godi a'i gymryd,
a'i ysgubo i ffwrdd o'i le;
22mae'n ei daro'n ddidrugaredd
wrth iddo drïo'i orau i ddianc o'i afael;
23mae'n curo'i ddwylo'n wawdlyd,
a chwibanu wrth ei yrru o'i le.
Copyright information for CYM